Y Cyfarfod Llawn

 

Dyddiad y cyfarfod:
Dydd Mercher, 20 Tachwedd 2013

 

Amser y cyfarfod:
13:30

 

 

 

 

Agenda

(164)v4

 

<AI1>

1 Cwestiynau i'r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol (45 munud) 

Gweld y Cwestiynau

 

</AI1>

<AI2>

2 Cwestiynau i’r Cwnsler Cyffredinol (5 munud) 

Gweld y Cwestiynau

 

</AI2>

<AI3>

3 Cwestiynau i’r Gweinidog Cymunedau a Threchu Tlodi (45 munud) 

Gweld y Cwestiynau

 

</AI3>

<AI4>

4 Cynnig o dan Reol Sefydlog 10.5 i benodi Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru dros dro (5 munud) 

NDM5368

Christine Chapman (Cwm Cynon)

Jocelyn Davies (Dwyrain De Cymru)

 

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru, yn unol ag Atodlen 1, paragraff 4, i Ddeddf Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus (Cymru) 2005 a Rheol Sefydlog 10.5:

 

Yn cytuno i enwebu'r Athro Sylvia Margaret Griffiths i'w Mawrhydi er mwyn ei phenodi yn Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru Dros Dro.

 

Dogfennau ategol:

Nodyn Cefndirol ar gyfer Aelodau'r Cynulliad

 

</AI4>

<AI5>

5 Cynnig i gymeradwyo Cyllideb Comisiwn y Cynulliad ar gyfer 2014/15 (30 munud) 

NDM5361 Angela Burns (Gorllewin Caerfyrddin a De Sir Benfro)

 

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru, yn unol â Rheol Sefydlog 20.16:

 

Yn cytuno ar gyllideb Comisiwn y Cynulliad ar gyfer 2014-15, fel y pennir yn Nhabl 1 “Cyllideb Comisiwn Cynulliad Cenedlaethol Cymru 2014-15”, a osodwyd gerbron y Cynulliad ar 13 Tachwedd 2013 a’i bod yn cael ei hymgorffori yn y Cynnig Cyllidebol Blynyddol o dan Reol Sefydlog 20.26(ii).

 

Dogfennau Ategol:

Dogfen Cyllideb Comisiwn y Cynulliad

Adroddiad y Pwyllgor Cyllid

 

</AI5>

<AI6>

6 Dadl y Ceidwadwyr Cymreig (60 munud) 

NDM5363 William Graham (Dwyrain De Cymru)

 

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:

 

1. Yn nodi polisi Ceidwadwyr Cymreig ‘Gweledigaeth ar gyfer Tai Cymru’;

 

2. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i weithio gyda’r farchnad gyfan i sicrhau y ceir ateb i'r argyfwng cyflenwad tai.

 

Mae ‘Gweledigaeth ar gyfer Tai Cymru’ ar gael yma:

 

Cyflwynwyd y gwelliannau a ganlyn:

 

Gwelliant 1 - Aled Roberts (Gogledd Cymru)

 

Cynnwys pwynt 1 newydd ac ailrifo yn unol â hynny:

 

Yn gresynu wrth y degawdau o fethiannau gan lywodraethau Llafur a Cheidwadol sydd wedi arwain at ein hargyfwng tai ac mae hynny wedi gwthio rhenti yn uwch ac yn uwch, wedi gadael miloedd o bobl heb obaith o gael eu troed ar yr ysgol eiddo, ac wedi golygu bod 1.5 miliwn yn llai o gartrefi cymdeithasol ar gael i’w rhentu.

 

Gwelliant 2 - Elin Jones (Ceredigion)

 

Dileu pwynt 1 a rhoi yn ei le:

 

Yn nodi nad yw polisi’r Ceidwadwyr Cymreig ‘Gweledigaeth ar gyfer Tai Cymru’ yn cydnabod mai’r broblem tai mwyaf brys yw’r effaith enbyd y mae’r Dreth Ystafell Wely yn ei chael ar nifer o denantiaid tai cymdeithasol, gan effeithio ar allu landlordiaid cymdeithasol i gynyddu’r cyflenwad tai, ac felly’n annog Llywodraeth y DU i ddiddymu’r Dreth Ystafell Wely.

 

Gwelliant 3 - Aled Roberts (Gogledd Cymru)

 

Cynnwys pwynt 2 newydd ac ailrifo yn unol â hynny:

 

Yn gresynu bod oddeutu 21,551 o gartrefi gwag hirdymor yng Nghymru a bod Llywodraeth Cymru wedi methu â chreu strategaeth cartrefi gwag ar gyfer Cymru gyfan.

 

Gwelliant 4 - Aled Roberts (Gogledd Cymru)

 

Cynnwys pwynt 2 newydd ac ailrifo yn unol â hynny:

 

Yn cydnabod pryder adeiladwyr tai bod biwrocratiaeth yn y system gynllunio yn un o’r prif rwystrau i ddatblygu cartrefi newydd ac yn galw ar Lywodraeth Cymru i ddefnyddio’r Bil Diwygio Cynllunio arfaethedig i gael gwared ar y prif rwystrau rhag darparu trefn gynllunio effeithiol.

 

Gwelliant 5 - Aled Roberts (Gogledd Cymru)

 

Cynnwys pwynt 2 newydd ac ailrifo yn unol â hynny:

 

Yn croesawu’r camau a gymerir gan Lywodraeth y DU i ysgogi’r gwaith o adeiladu tai newydd drwy fenthyciadau ecwiti a chynllun gwarant morgais, ac yn galw ar Lywodraeth Cymru i bennu dyddiad ar gyfer cyflwyno’r cynllun hirddisgwyliedig Cymorth i Brynu Cymru.

 

Gwelliant 6 - Aled Roberts (Gogledd Cymru)

 

Cynnwys pwynt 2 newydd ac ailrifo yn unol â hynny:

 

Yn nodi mai dim ond un ar ddeg o gynghorau lleol yng Nghymru sy’n dal i fod â stoc tai cyngor yn eu meddiant ac mae hynny’n llesteirio gweledigaeth Ceidwadwyr Cymreig i adfer cynllun ‘Hawl i Brynu’ yng Nghymru, a bod y pwer i atal yr Hawl i Brynu tai cyngor mewn ardaloedd lle mae llawer o alw yn arf pwysig i helpu i leihau lefelau digartrefedd a phrinder tai cymdeithasol.

 

</AI6>

<AI7>

7 Dadl Plaid Cymru (60 munud) 

NDM5362 Elin Jones (Ceredigion)

 

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:

 

1. Yn Nodi:

 

a) canfyddiadau adroddiad ar newid yn yr hinsawdd gan y Panel Rhynglywodraethol ar y Newid yn yr Hinsawdd ei bod 95% yn sicr mai dylanwad dynol ar yr hinsawdd a achosodd dros hanner o'r cynnydd a nodwyd mewn tymereddau arwyneb cyfartalog o 1951-2010;

 

b) dibyniaeth barhaus Cymru ar danwyddau ffosil ar gyfer ynni, sy'n darparu tua 80% o'r anghenion ynni;

 

c) mai Llywodraeth y DU sy'n gyfrifol am y defnydd o  adnoddau nwy siâl Cymru, ynghyd â rheoli unrhyw fudd sy'n deillio ohono;

 

d) methiant Llywodraeth Cymru i gyrraedd ei tharged o gynhyrchu 4TWh o drydan o ynni adnewyddadwy erbyn 2010;

 

e) er gwaethaf y ffaith bod Cymru yn allforiwr net trydan, mae biliau'n uwch yng Nghymru nag yn Lloegr neu'r Alban;

 

2. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i:

 

a) datblygu ‘Map Llwybr’ manwl a Chynllun Gweithredu a fydd yn arwain at dargedau ynni adnewyddadwy 2020, gan ddangos targedau ar gyfer pob math unigol o ynni a'r camau a gymerir i gyrraedd y targedau hynny;

 

b) rhoi pwysau ar Lywodraeth y DU i ddatganoli yn llawn y portffolio ynni a rheoli adnoddau naturiol Cymru i'r Cynulliad Cenedlaethol;

 

c) cadarnhau gydag Ofgem a'r Grid Cenedlaethol a oes unrhyw ymchwil wedi'i gwneud i gost a hyfywedd cebl tanfor sy'n cysylltu'r Grid Cenedlaethol rhwng gogledd a de Cymru, ac os felly darparu copi o'r ymchwil honno;

 

d) ymchwilio i'r potensial i sefydlu cwmni ynni cyhoeddus, di-ddifidend i fuddsoddi mewn ynni er budd pobl Cymru.

 

Cyflwynwyd y gwelliannau a ganlyn:

 

Gwelliant 1 - William Graham (Dwyrain De Cymru)

 

Dileu is-bwynt 1c a rhoi yn ei le:

 

er mai Llywodraeth y DU sy’n gyfrifol am y drefn drwyddedu ar gyfer chwilota am nwy anghonfensiynol a’i echdynnu, mae angen mathau eraill o ganiatâd (megis caniatâd cynllunio lleol) cyn y caniateir i waith ddechrau gyda nwy anghonfensiynol.

 

Gwelliant 2 - William Graham (Dwyrain De Cymru)

 

Cynnwys is-bwynt 1d newydd ac ailrifo yn unol â hynny:

 

bod Llywodraeth y DU wedi ymgynghori ar drefn ariannol ar gyfer echdynnu nwy siâl ac wedi addo darparu fframwaith cydlynol er mwyn galluogi cymunedau lleol i elwa’n uniongyrchol o unrhyw adnoddau a ddatblygir yn eu hardal.

 

Gwelliant 3 - Aled Roberts (Gogledd Cymru)

 

Ychwanegu is-bwynt newydd ar ddiwedd pwynt 1:

 

bod Llywodraeth Cymru wedi sefydlu Banc Buddsoddi Gwyrdd gwerth £3 biliwn, y cyntaf o’i fath yn y byd, a fydd yn sianelu £15 biliwn o fuddsoddiad y sector preifat i brosiectau gwyrdd.

 

Gwelliant 4 - Aled Roberts (Gogledd Cymru)

 

Ychwanegu is-bwynt newydd ar ddiwedd pwynt 1:

 

pwysigrwydd cynlluniau ynni cymunedol i gynaliadwyedd ardaloedd lleol, gan feithrin ysbryd cymunedol a chodi ymwybyddiaeth o faterion yn ymwneud ag ynni a newid yn yr hinsawdd.

 

Gwelliant 5 - Aled Roberts (Gogledd Cymru)

 

Ychwanegu is-bwynt newydd ar ddiwedd pwynt 1:

 

bod prosiectau seilwaith cenedlaethol eu harwyddocâd (NSIP) ar ynni, gan gynnwys ynni niwclear, yn cael effaith y tu hwnt i ffin Cymru/Lloegr.

 

Gwelliant 6 - William Graham (Dwyrain De Cymru)

 

Dileu is-bwynt 2b a rhoi yn ei le:

 

Gweithio gyda Llywodraeth y DU i ddatblygu cynnig cynhwysfawr i ddatganoli rhagor o bwerau i Gymru ar gyfer cydsyniadau ynni ac ymrwymo i ynni adnewyddadwy.

 

[Os derbynnir gwelliant 6, bydd gwelliant 7 yn cael ei ddad-ddethol]

 

Gwelliant 7 - Aled Roberts (Gogledd Cymru)

 

Dileu is-bwynt 2b a rhoi yn ei le:

 

ailddatgan y gefnogaeth gan bob plaid i ddatganoli cydsyniadau ynni ar gyfer prosiectau ar y tir sy’n fwy na 50MW ac i weithio gyda Llywodraeth y DU i gysoni pwerau cydsynio ar y môr yn nyfroedd Cymru.

 

Gwelliant 8 - William Graham (Dwyrain De Cymru)

 

Cynnwys is-bwynt 2c newydd ac ailrifo yn unol â hynny:

 

Gweithio gyda Llywodraeth y DU i ystyried a yw’r drwydded bresennol ar gyfer Datblygu a Chwilota am Betrolewm yn y DU yn drefn effeithiol i ddatblygu nwy anghonfensiynol yn y dyfodol.

 

Gwelliant 9 - William Graham (Dwyrain De Cymru)

 

Cynnwys is-bwynt 2c newydd ac ailrifo yn unol â hynny:

 

Datblygu canllawiau cynllunio technegol ar chwilota am nwy anghonfensiynol er mwyn helpu awdurdodau cynllunio lleol i gyflawni eu swyddogaethau yn briodol.

 

Gwelliant 10 - William Graham (Dwyrain De Cymru)

 

Ychwanegu is-bwynt newydd ar ddiwedd pwynt 2:

 

cadarnhau a yw’n cefnogi Prosiect Cysylltu Canolbarth Cymru, a fyddai’n arwain at lawer iawn o dyrbinau gwynt ar y tir ledled Canolbarth Cymru.

 

Gwelliant 11 - Aled Roberts (Gogledd Cymru)

 

Ychwanegu is-bwynt newydd ar ddiwedd pwynt 2:

 

cyflwyno’r gwerthusiad gwerth am arian o brosiect Ynni’r Fro, a oedd i fod yn barod erbyn diwedd mis Medi 2013.

 

Gwelliant 12 - Aled Roberts (Gogledd Cymru)

 

Ychwanegu is-bwynt newydd ar ddiwedd pwynt 2:

 

cyflwyno datganiad manwl yn amlinellu sut y mae Llywodraeth Cymru yn sicrhau cymaint o gyfleoedd ag y bo modd i Gymru drwy’r Banc Buddsoddi Gwyrdd.

 

</AI7>

<AI8>

8 Dadl Cyfnod 3 o dan Reol Sefydlog 26.44 ar y Bil Adennill Costau Meddygol ar gyfer Clefydau Asbestos (Cymru) (60 munud) 

Yn unol â Rheol Sefydlog 26.36, mae’r gwelliannau i gael eu gwaredu yn y drefn y mae’r adrannau a’r atodlenni y maent yn cyfeirio atynt yn codi yn y Bil.

 

Mae’r gwelliannau wedi cael eu grwpio at ddibenion y ddadl a byddant yn cael eu trafod fel a ganlyn:

 

1. Atebolrwydd

11, 13

 

2. Gofal Lliniarol

4

 

3. Gwasanaethau a eithrir

5, 6, 10

 

4. Y cyfnod amser ar gyfer adennill costau

7

 

5. Apelau a hawlildiadau

1, 2, 3

 

6. Defnyddio Gwybodaeth

12

 

7. Defnyddio symiau a ad-delir

14, 15

 

8. Pŵer i atal y Ddeddf dros dro

8, 9

 

Dogfennau Ategol:

Bil Adennill Costau Meddygol ar gyfer Clefydau Asbestos (Cymru)

Memorandwm Esboniadol

Rhestr o Welliannau wedi’u Didoli

Grwpio gwelliannau

 

</AI8>

<AI9>

9 Cynnig Cyfnod 4 o dan Reol Sefydlog 26.47 i gymeradwyo'r Bil Adennill Costau Meddygol ar gyfer Clefydau Asbestos (Cymru) (5 munud) 

Ar ddiwedd Cyfnod 3 caiff yr Aelod sy'n gyfrifol gynnig bod y Bil yn cael ei basio yn unol â Rheol Sefydlog 26.47.

 

Cynnig Cyfnod 4 o dan Reol Sefydlog 26.47 i gymeradwyo'r Bil Adennill Costau Meddygol ar gyfer Clefydau Asbestos (Cymru)

</AI9>

<AI10>

Cyfnod Pleidleisio

</AI10>

<AI11>

10 Dadl Fer (30 munud) 

NDM5360 Keith Davies (Llanelli): Rheoleiddio gorfodol gan y wladwriaeth ar gyfer y diwydiant trin gwallt yng Nghymru: pryder iechyd cyhoeddus ehangach.

 

</AI11>

<TRAILER_SECTION>

 

Cynhelir Cyfarfod Llawn nesaf y Cynulliad am 13:30, Dydd Mawrth, 26 Tachwedd 2013

</TRAILER_SECTION>

<LAYOUT_SECTION>

</LAYOUT_SECTION>

<TITLE_ONLY_LAYOUT_SECTION>

</TITLE_ONLY_LAYOUT_SECTION>

 

<HEADING_LAYOUT_SECTION>

</HEADING_LAYOUT_SECTION>

<TITLED_COMMENT_LAYOUT_SECTION>

</TITLED_COMMENT_LAYOUT_SECTION>

<COMMENT_LAYOUT_SECTION>

</COMMENT_LAYOUT_SECTION>

 

<SUBNUMBER_LAYOUT_SECTION>

 

</SUBNUMBER_LAYOUT_SECTION>

 

<TITLE_ONLY_SUBNUMBER_LAYOUT_SECTION>

 

</TITLE_ONLY_SUBNUMBER_LAYOUT_SECTION>